Kidwelly Town Council Logo
Menu

Newyddion diweddaraf Cyngor Sir Gar 26/03/2021

Rhagor o gamau i lacio’r cyfyngiadau symud

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio ymhellach yng Nghymru.

O yfory (Dydd Sadwrn, 27 Mawrth)

• Bydd llety gwyliau hunangynhwysol yn gallu ailagor ar gyfer un aelwyd, sy'n cynnwys gwestai, llety hunanarlwyo a charafanau sydd â'u cyfleusterau eu hunain.
• O yfory bydd y cyfyngiad Arhoswch yn Lleol yn cael ei godi i ganiatáu teithio yng Nghymru - a chaiff hyn ei adolygu ar 12 Ebrill.
• Bydd llyfrgelloedd yn gallu ailagor a rhai mannau hanesyddol a gerddi.
• Bydd chwe pherson o ddwy aelwyd wahanol yn gallu cwrdd yn yr awyr agored neu mewn gardd breifat.
• O ddydd Sul ymlaen bydd gweithgareddau a drefnir yn gallu ailddechrau ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 18 oed.

Cynhelir yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau yr wythnos nesaf.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.


Biniau dros y Pasg

Mae trigolion yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hatgoffa y bydd newidiadau i'r casgliadau biniau yn ystod gwyliau'r Pasg.

O ddydd Gwener, 2 Ebrill tan ddydd Gwener, 9 Ebrill, bydd casgliadau'n digwydd un diwrnod yn hwyrach na'r arfer. Er enghraifft, os yw eich casgliad i fod ar ddydd Gwener, ni fydd yn digwydd tan ddydd Sadwrn ac yn y blaen.

Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gasgliadau gwastraff gardd hefyd.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.

 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.