Yn dilyn cael fy ail-ethol fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn gynharach yn y mis, un o fy mhenderfyniadau allweddol cyntaf yn ystod y tymor hwn fydd penodi Prif Gwnstabl i Heddlu Dyfed Powys. Mae'n gyfrifoldeb yr wyf yn ei gymryd o ddifrif a bydd proses gadarn ar waith, a fydd yn cynnwys rhanddeiliaid, swyddogion a staff i'm helpu i ddod i'r penderfyniad hwn.
Byddaf yn hysbysebu'r cyfle yn fuan, ond cyn i mi wneud hynny, rwyf am sicrhau fy mod yn diffinio'n glir yr hyn sydd ei angen arnom gan Brif Gwnstabl yn Dyfed Powys.
Yn hynny o beth, byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallech roi eich barn ar yr hyn sydd ei angen arnom gan Brif Gwnstabl yn Dyfed Powys yn gyfrinachol trwy'r ddolen ganlynol erbyn Dydd Gwener, 04.06.21:
Apwyntio Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys Police Chief Constable Appointment Survey (surveymonkey.co.uk)
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed gennych.
Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys