Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru (dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor) ar gyfer tymor y Senedd hon yn awr wedi’i chyhoeddi, ynghyd â’r Datganiad Llesiant (dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor) cysylltiedig, gan osod set uchelgeisiol o ymrwymiadau y mae Gweinidogion Cymru’n bwriadu eu cyflawni yn ystod y tymor.
Bydd rhaglen y llywodraeth hon yn creu Cymru gryfach, decach, wyrddach sy’n fwy tosturiol. Bydd yn mynd i’r afael â’r heriau digynsail rydym yn eu hwynebu ac yn ein galluogi i edrych tua’r dyfodol yn obeithiol ac yn optimistaidd. Mae’n rhaglen gredadwy sy’n canolbwyntio ar y ffyrdd y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â helpu ein cymunedau i ffynnu drwy weithio gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid gwerthfawr ar bob lefel.
Yn bwysicaf oll, mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cyflwyno gweledigaeth glir i gyflawni Cymru lle mae pob un ohonom yn cydweithio yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol i gyflawni’r dyfodol yr ydym am ei weld. Bydd egwyddorion cynhwysiant, cydweithio a chyfiawnder cymdeithasol yn ganolog i’n gwaith, gan gydnabod a dathlu’r amrywiol safbwyntiau a phrofiadau yng Nghymru. Fel rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi dibynadwy, bydd gennych chi ran bwysig iawn i’w chwarae – ni fyddwn yn gallu cyflawni hyn heb eich arbenigedd, eich cyfraniad a’ch gallu.
Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda chi gydol tymor y Senedd hon.