Gan ragweld tarfu pellach yn gysylltiedig â Covid, bydd Tir Coed yn parhau i gynnig diwrnodau gwirfoddoli coetir yn y flwyddyn newydd (yn lle ein cyrsiau coetir arferol yr ydym yn gobeithio dychwelyd i gynnal yn yr Haf).
Mae modd archebu lle ar gyfer y bloc cyntaf o ddiwrnodau gwirfoddoli: dydd Iau o Ionawr 14 tan hanner tymor Chwefror (gweler y poster drwy ddilyn y ddolen hon).
Bydd sesiynau'n rhedeg rhwng 10am a 4pm ym Mharc Coetir Mynydd Mawr yn y Tymbl.
Dilynwch y ddolen hon i weld Cyflwyniad Prosiect LEAF Sir Gaerfyrddin (Saesneg yn unig). Mae hyn yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn rydyn ni'n ei gynnig o dan amgylchiadau arferol.
Os ydych chi'n gweithio gydag unrhyw bobl ifanc sydd â diddordeb mewn gweithio yn yr awyr agored, dysgu sgiliau newydd, cysylltu â natur ac eisiau darganfod rhagor am weithio'n gynaliadwy yna cysylltwch gyda Tir Coed.