Image: Lindsey Witcombe
Grŵp o wirfoddolwyr amgylcheddol yw Tir Cyffredin Cydweli a ffurfiwyd llynedd (2019) fel cangen o Gydweithfa Ynni Cwm Gwendraeth (GVEC), y prosiect gardd ynni solar a eginodd o grŵp gwirfoddol Glan yr Afon a ffurfiwyd yn 2017.
Mae gennym ystod o sgiliau ymarferol, garddwriaeth ac addysgu ac rydym yn ymroddedig i weithio'n lleol i wrthdroi'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol a chymryd ein rhan i greu cymuned gref hunanddigonol yma. Felly, ‘meddylfryd byd-eang, camau lleol.’
Mae ein gwaith a'n prosiectau yn cynnwys plannu coed a chynhaliaeth, clirio llwybrau cerdded, casglu sbwriel, cefnogi perllan leol, hau hadau blodau gwyllt mewn mannau cyhoeddus a chefnogi tyfu llysiau yn y gymuned. Rydym eisiau denu ieuenctid a chynnig gweithdai awyr agored i bawb.
Croeso i wirfoddolwyr
Cysylltwch â: Lindsey ar 890960 neu danfonwch e-bost at lindseywitcombe@gmail.com
Yn ddiweddar, mae grŵp Tir Cyffredin Cydweli wedi rhoi dwy fainc yng Nghydweli, un yng Nglan yr Afon ac un arall ger y gamlas yn y Cei. Rydym eisiau cysylltu gyda'r gymuned leol ac mae croeso i wirfoddolwyr newydd.
Ffôn: 01554 890960
E-bost: lindseywitcombe@gmail.com
Cyfeiriad / Lleoliad:
Cydweli
Noder:
Tra gwneir pob ymgais i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a geir ar y dudalen hon, nid yw Cyngor Tref Cydweli yn cymryd cyfrifoldeb ar gyfer cyflawnder, cywirdeb neu fudd y wybodaeth a geir yma.
Ydych chi wedi sylwi ar gamgymeriad?
Rhowch wybod i ni: