Kidwelly Town Council Logo
Menu

Twyll Cludwr - Galwadau ffug oddi wrth rai sy'n honni bod yn heddlu

Rhybudd - Galwadau ffôn ffug i drigolion yn esgus bod oddi wrth yr Heddlu!

• Rydym wedi cael gwybod gan Heddlu Dyfed Powys bod troseddwyr sy’n esgus bod yn swyddogion Heddlu yn galw trigolion ac yn ceisio cyflawni’r hyn a elwir yn ‘Twyll Cludwr’… gallai hyn fod yn digwydd yng ngweddill Cymru hefyd
• Maen nhw'n eich ffonio chi i ddweud wrthych chi am weithgaredd twyllodrus ar eich cerdyn banc, ond yna maen nhw'n dechrau gofyn i chi am wybodaeth bersonol neu hyd yn oed eich PIN i wirio pwy ydych chi.
• Efallai y byddan nhw'n ceisio cynnig tawelwch meddwl i chi trwy gael rhywun i gasglu'ch cerdyn banc oddi wrthych chi er mwyn eich arbed chi o orfod mynd i'ch banc neu orsaf heddlu lleol (Courier).

• Mae'r rhai sy'n galw yn droseddwyr a fydd yn ceisio ennill eich ymddiriedaeth trwy wneud ichi feddwl eu bod yn swyddogion heddlu.
• Peidiwch â chymryd rhan mewn sgwrs â nhw.
• Peidiwch â gadael iddynt drefnu casglu cardiau banc.
• Rhowch y ffôn i lawr.
• Rhwystrwch y rhif y gwnaethon nhw alw ohono.
• Dywedwch wrth eich ffrindiau a'ch cymdogion am y twyll hwn
• Hysbyswch yr heddlu lleol trwy gysylltu â nhw trwy eu tudalen we ar-lein neu drwy ffonio 101

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.