Cymorth i Gymdogion Fod Yn Barod i Ymateb
Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld poster
Gall ein set o adnoddau a grëwyd ar y cyd ail-danio cysylltiad ar lefel stryd, caredigrwydd, cefnogaeth a dwyochredd. Rhannwch nhw gyda'ch cydweithwyr a'ch cymunedau i helpu cymdogion i baratoi i ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau gyda'n gilydd.
Mae gennym hefyd lawer o wybodaeth, syniadau ac adnoddau yn benodol ar bob un o'r pynciau; dilynwch y dolenni perthnasol isod:
- Byddwch yn Garedig - yn cynnwys syniadau bach i ledaenu llawenydd, awgrymiadau ar weithio gartref (Saesneg yn unig), awgrymiadau ar gysylltu â natur (Saesneg yn unig), ble i ddod o hyd i straeon hapus (Saesneg yn unig) a'r pum ffordd i wella'ch lles yn ystod y pandemig (Saesneg yn unig).
- Cysylltu - yn cynnwys syniadau i gysylltu'n ddigidol (Saesneg yn unig) ac yn greadigol (Saesneg yn unig), templed cerdyn post caredigrwydd dwyieithog i bicio i mewn i flychau llythyrau cymdogion, templed coeden ffôn (Saesneg yn unig) a dolenni ar gyfer grwpiau cymorth lleol.
- Cefnogi - cyfeiriadau at wefannau gwirfoddoli a sut i gadw'n ddiogel ar-lein (Saesneg yn unig)
- Rhannu - yn cynnwys cyngor ar rannu gwybodaeth gywir a chyfoes