Tref yn Sir Gaerfyrddin yw Cydweli, tua 10 milltir i orllewin Llanelli. Mae’r dref yn eistedd ar lan y ddwy afon Gwendraeth (y Gwendraeth Fach a’r Gwendraeth Fawr) uwch Bae Caerfyrddin. Mae hi’n dref arfordirol sy’n ganolbwynt delfrydol ar gyfer teithio gorllewin Cymru, Parc Cenedlaethol Sir Benfro, Penrhyn Gwyr a Bannau’r Brycheiniog. Mae’r ardal yn gymysgedd gwych o gefn gwlad, glan môr a choetir – ac yn ficrocosm llawn o Gymru ar ei gorau.
Rhoddwyd Siarter i dref Cydweli tua 1115 OC gan y Brenin Harri’r 1af.
Poblogaeth gyfredol Cydweli yw tua 3,000 gyda rhyw 30,000 o dwristiaid yn ymweld yn flynyddol.
Credir bod enw ‘Cydweli’ yn un hynafol iawn. Ceir hyd i’r ffurf gynharaf o’r enw, 'Cetgueli', mewn cofnod gan y mynach Nennius yn y 9fed ganrif.
Sefydlwyd y dref a’r castell gan y Normaniaid a orchfygodd yr ardal yn ystod y 12fed ganrif. Maes Gwenllïan yw’r enw ar gae yn yr ardal sef lleoliad brwydr yn 1136, lle arweiniodd Y Dywysoges Gwenllïan, chwaer Owain Gwynedd filwyr ei gwr i ymrafael â’r fyddin Normanaidd yn ystod ei absenoldeb. Credir ei bod wedi ei dienyddio naill ai’n ystod y frwydr neu’n fuan wedi hynny. Er yn dref hynafol, tyfodd Cydweli yn sylweddol yn ystod y chwyldro diwydiannol fel nifer o drefi eraill yn ne Cymru. Bu’r dref yn gartref i waith brics a gwaith tunplat. Bychan yw’r dystiolaeth yn awr o’r gweithgarwch yma ers cau’r gweithfeydd gydag eithriad Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli.
Heddiw y mae’r dref wedi addasu ar gyfer twristiaeth ac adwerthu yn hytrach na diwydiant dwys. Gydag atyniadau hanesyddol a gwledig megis Castell Cydweli , a sefydlwyd yn 1106, pont ac iet o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, yr hen gei (sy’n warchodfa natur yn awr), eglwys y plwyf Normanaidd ac amgueddfa ddiwydiannol.