Kidwelly Town Council Logo
Menu
pagetitle

Image: Brian Rees

Camlas Kymer a Chei Cydweli

Daeth y gamlas gyntaf yng Nghwm Gwendraeth, Camlas Kymer i fodolaeth erbyn 1768 - ddwy flynedd ar ôl i Thomas Kymer, gwr o Sir Benfro gael caniatâd drwy ddeddf Seneddol i adeiladu camlas ar y 19eg Chwefror 1766. Diben y gamlas oedd cysylltu ei byllau glo ym Mhwll-y-llygod a Fforest-fawr ger Carwe i'r arfordir ar gyfer ei allforio ar longau. Cwrs y gamlas oedd o Pwll-y-llygod a orweddai ger y Gwendraeth Fawr i ddoc pwrpasol ger y Gwendraeth Fach islaw Cydweli mewn man o'r enw Ythyn Frenig. Rhoddwyd hawl iddo o fewn y Ddeddf i newid cwrs y Gwendraeth Fawr o Bwll-y-llygod i Bont Spwdwr, lle groesai'r heol dyrpeg yr afon. Heddiw mae eithin Ffrengig yn frith ar ochr llwybr y pentir ger Cei Cydweli, sef pen yr hyn sy'n weddill o Gamlas Kymer.

Bu farw Kymer yn 1784 ac fe'i gladdwyd yng nghangell yr Eglwys Fair, Cydweli. Parhawyd ei fenter gan ei chwiorydd ond erbyn diwedd y ganrif daeth mynediad at y doc yn anoddach gyda'r aber yn llenwi â llaid, ond yn y blynyddoedd wedi hynny daeth y gamlas hon yn rhan o gynllun llawer mwy cymhleth o gamlesi oedd yn cysylltu'r pyllau glo niferus yn yr ardal.

Gellir darllen rhagor am y gamlas a'r system dramffordd ar dudalen Wikipedia Camlas Cydweli a Llanelli drwy ddilyn y ddolen hon.

Ceir rhagor o hanes Camlas Kymer drwy ddilyn y ddolen hon.

Ceir hanes Porthladd Cydweli drwy ddilyn y ddolen hon.

Fel rhan o brosiect ar y cyd gyda Pharc Rhanbarthol y Cymoedd a Chyngor Sir Gâr, comisiynwyd Ridler | Webster i greu pecyn o daflenni i gerddwyr o amgylch Cydweli.

Cliciwch ar y dolenni canlynol i gael gweld:

Noder:
Tra gwneir pob ymgais i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a geir ar y dudalen hon, nid yw Cyngor Tref Cydweli yn cymryd cyfrifoldeb ar gyfer cyflawnder, cywirdeb neu fudd y wybodaeth a geir yma.

Ydych chi wedi sylwi ar gamgymeriad?
Rhowch wybod i ni:

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.