Mae'r wefan wrthi'n cael ei chyfieithu/diweddaru. Byddwch yn amyneddgar gyda'i chynnydd. Diolch
Yn sgil clefyd pandemig y Coronafeirws a chanllawiau’r Llywodraeth mae swyddfeydd Cyngor Tref Cydweli ar gau i’r cyhoedd nes clywir yn wahanol.
Gallwch gysylltu gyda staff drwy e-bost: towncouncil@kidwelly.gov.uk
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru
MAE 5 SEDD WAG AR Y CYNGOR. OS YDYCH AM WNEUD GWAHANIAETH I'CH CYMUNED, YSTYRIWCH WNEUD CAIS
Ychydig a wyddwn nôl fis Chwefror eleni pan gefais fy ethol yn Faer, y byddai fy mywyd a'ch bywyd chi yn newid cymaint mewn peth amser....Darllen rhagor
Tref yn Sir Gaerfyrddin yw Cydweli, tua 10 milltir i orllewin Llanelli. Mae’r dref yn eistedd ar lan y ddwy afon Gwendraeth (y Gwendraeth Fach a’r Gwendraeth Fawr) uwch Bae Caerfyrddin. Mae hi’n dref arfordirol sy’n ganolbwynt delfrydol ar gyfer teithio gorllewin Cymru, Parc Cenedlaethol Sir Benfro, Penrhyn Gwyr a Bannau’r Brycheiniog. Mae’r ardal yn gymysgedd gwych o gefn gwlad, glan môr a choetir – ac yn ficrocosm llawn o Gymru ar ei gorau.
Heddiw y mae’r dref wedi addasu ar gyfer twristiaeth ac adwerthu yn hytrach na diwydiant dwys, gydag atyniadau hanesyddol a gwledig megis Castell Cydweli, ac Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli.