Kidwelly Town Council Logo
Menu

Gwasanaethau Cyngor Tref Cydweli

Mae Cyngor Tref Cydweli yn un o brif berchenogion tir yr ardal ac yn gyfrifol am gynhaliaeth o’i ystad. Mae Cyngor Tref Cydweli hefyd yn gyfrifol am y canlynol:

  • Cefnogi Maer y Dref
  • Cefnogi Cynghorwyr y Dref
  • Awdurdod Claddu Cydweli a Mynyddygarreg
  • Mynwent y Dref
  • Nifer o lwybrau cyhoeddus yng Nghydweli a Mynydd y Garreg
  • Gwarchodfa Natur Glan yr Afon
  • Cei Cydweli a’r cyffuniau
  • Goleuadau stryd – polion lampau sy’n Dechrau gyda’r rhif 9
  • Goleuadau’r Nadolig
  • Cofgolofn Rhyfel a Gardd Goffa
  • Gardd Goffa’r Dywysoges Diana ar Sgwâr y Dref
  • Cloc yr Eglwys
  • Cyswllt gyda’r Cyngor Sir
  • Canolfan Groeso i Dwristiaid

Rydym hefyd yn wasanaeth gwybodaeth cyffredinol ar gyfer y Dref ac yn helpu cydlynnu nifer o ddigwyddiadau yn yr ardal.

Noder mai cyfrifoldeb Cyngor Sir Gaerfyrddin yw tai, ffyrdd, cynllunio, casglu biniau ac ysgolion. Ar gyfer materion sy'n ymwneud gydag uâ'r gwasanaethau yma cysylltwch cyfeiriad e-bost yw: galw@sirgar.gov.uk


Ers Ionawr 2018 ni fydd Cyngor Tref Cydweli yn gweithio fel asiant dosbarthu ar gyfer Cyngor Sir Gaerfyrddin drwy ddarparu trigolion gyda:

  • Bagiau Ailgylchu Glas
  • Biniau Gwastraff Bwyd lliw gwyrdd
  • Biniau Gwastraff Bwyd lliw brown

Cysylltwch gyda'r Cyngor Sir ynghylch y gwasanaethau yma.


Tocynnau Castell Cydweli

O Ionawr 2018 ni fydd y Cyngor Tref yn darparu tocyn mynediad am ddim i Gastell Cydweli oddi wrth CADW mwyach.  Mae Tocynnau Trigolion Lleol Cadw yn newid i Docynnau Henebion Cadw.  Cliciwch fan hyn er mwyn darllen rhagor o fanylion ynghyd â thelerau ac amodau'r cynllun newydd.


Llungopïo

Gall Cyngor Tref Cydweli ddarparu’r gwasanaeth canlynol am bris:

Llungopi A4 -10c y dudalen (du a gwyn) + 30c y dudalen (lliw)
Llungopi A3 - 20c y dudalen (du a gwyn) + 60c y dudalen (lliw)

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.