Neges i hysbysu bod y Gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig wedi ailagor. Fel rhan o'r rhaglen 10 Tref Cyngor Sir Caerfyrddin, gallai safleoedd masnachol ar draws trefi marchnad gwledig y Sir fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol o hyd at £2000 i adfywio blaen eu siop.
Mae hon yn gronfa wedi'i thargedu ar gyfer safleoedd sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd dynodedig ym mhob tref farchnad wledig. Gellir ystyried ceisiadau o safleoedd sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r ardal ddynodedig pob tref fesul achos pe bai'r prosiect yn cael effaith sylweddol.
Cysylltwch â RDPSIRGAR@sirgar.gov.uk i drafod eich cais prosiect gyda swyddog. Rhaid i bob cais sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r canllawiau a'r argymhellion a nodir yng Nghanllaw Dylunio Treftadaeth Adeiledig Sir Gaerfyrddin
<< Yn ôl at y rhestr digwyddiadau