Kidwelly Town Council Logo
Menu

Hysbysiad Cyhoeddus - Gosod Twmpathau ffordd, Heol y Prior, Cydweli

 

 

 

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

GORCHYMYN SIR GAERFYRDDIN
(HEOL Y PRIOR, CYDWELI)
(GOSOD TWMPATHAU FFORDD) 2022
---------------------------------------------------------------------------------------------------
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 90C o Ddeddf Priffyrdd 1980, fod Cyngor Sir Caerfyrddin, gan ddefnyddio ei bwerau o dan Adran 90A o Ddeddf Priffyrdd 1980, yn bwriadu creu twmpathau ffordd sydd yn cydymffurfio â Rheoliadau Priffyrdd (Twmpathau Ffyrdd) 1999 ar Heol y Prior, Cydweli.

Mae math, mesuriadau a lleoliadau'r twmpathau ffordd arfaethedig fel a ganlyn: -

Math

Mesuriadau

Lleoliad

Twmpath Arafu Estynedig

 

65mm o uchder (yn amodol ar yr amrywiadau a ganiateir yn y Rheoliadau cysylltiedig).

Lled y ffordd.

Brig gwastad o leiaf 4 metr.

Heol y Prior, Cydweli

Y tu allan i eiddo rhif 46 a 48

 

Twmpath Arafu Estynedig i'w waredu

Twmpath arafu i'w waredu

Heol y Prior, Cydweli

Y tu allan i eiddo rhif 64 a 66

 

Ystyrir bod darparu twmpath arafu estynedig yn angenrheidiol er mwyn gwella diogelwch ffordd drwy reoli cyflymder y traffig mewn parth lle mae terfynau cyflymder o 20mya a gwella diogelwch i ddefnyddwyr ffyrdd agored i niwed y tu allan i'r man lle ailadeiladir Ysgol y Castell, Cydweli.
Bydd y twmpath arafu estynedig sy'n bodoli eisoes ar Heol y Prior yn cael ei waredu er mwyn hwyluso newid o ran mynediad i Ysgol y Castell, Cydweli.

Mae manylion llawn y cynnig, ynghyd â'r cynllun, ar gael i'w harchwilio ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin, sef www.sirgar.llyw.cymru, neu drwy anfon neges i'r cyfeiriad e-bost isod yn ystod oriau arferol y swyddfa.

Os ydych am wrthwynebu'r cynigion dylai eich rhesymau dros wrthwynebu gael eu cyflwyno ar ffurf llythyr a anfonir at y Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP erbyn 26 Ionawr, 2022.

DYDDIEDIG 5 Ionawr, 2022
Cyfeirnod y Ffeil: HTTR-1665

e-bost: rwjones@sirgar.gov.uk

 

WENDY WALTERS
Y Prif Weithredwr
Neuadd y Sir
Caerfyrddin.

 

 

 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.