Kidwelly Town Council Logo
Menu

Mae'r wefan wrthi'n cael ei chyfieithu/diweddaru. Byddwch yn amyneddgar gyda'i chynnydd. Diolch

Hanes Cydweli

Sefydlwyd Cydweli fel bwrdeistref oddeutu 1115 OC, yn un o’r hynaf yng Nghymru saif yng nghysgod y Castell Normanaidd. Y dinasyddion cynharaf oedd mewnfudwyr Saesnig, Ffrengig a Fflandrysaidd; masnachwyr ac amaethwyr a ymdoddwyd i’r gymdeithas i atgyfnerthu’r grym Normanaidd ar yr ardal. Ymosodwyd a difethwyd y Castell a’r Dref nifer o weithiau gan y Cymry taer.
Erbyn diwedd y 13eg Ganrif amddiffynnwyd canol y dref gan waliau a phyrth mawr.
Yn ystod y 14eg Ganrif bu’r dref yn llewyrchus a Chydweli oedd un o brif ganolfannau gwerthu a masnachu de Cymru.

Daeth cwymp i’r llwyddiant yn y 18fed Ganrif yn sgil aber y Gwendraeth yn llenwi â llaid ond daeth gwellhad yn ystod y 19eg Ganrif gydag allforion glo o’r Gwendraeth Fawr.

Rhwng 1766 a 1768 adeiladwyd camlas tair milltir o hyd ynghyd â dociau gan Thomas Kymer gan gysylltu ei byllau glo gyda’r arfordir.

Sefydlwyd gweithfeydd tunplat yn 1737 – yr ail waith cynharaf yn y Deyrnas. Parhau gwnaeth llewyrch Oes Fictoria ac adlewyrchir hyn yn y treflun, yn enwedig maint Gothig Neuadd y Dref.

Y Dywysoges Gwenllïan

Gorwedda Maes Gwenllïan rhyw filltir i ogledd Cydweli.

Mae’n coffau’r fenyw a arweiniodd byddin Gymreig yn erbyn y Normaniaid, un oedd yn meddu ar reddf filwrol debyg i Buddug. Dilynodd y frwydr marwolaeth Brenin Harri’r 1af yn Rhagfyr 1135 gyda’r Cymry’n gwrthryfela’n erbyn llywodraeth estron gan fygwth chwyldro cenedlaethol.
Codwyd byddin yng ngorllewin Brycheiniog ac ymosodwyd ar aneddiadau yn y Gŵyr. Bu’r frwydr a ymladdwyd rhwng Llwchwr ac Abertawe yn fuddugoliaeth fawr i’r Cymry lle lladdwyd 500 o Normaniaid.

Gwelodd rheolwr y Deheubarth, Gruffudd ap Rhys, ei gyfle i waredu estroniaid o’i Deyrnas. Aeth i’r gogledd i Wynedd i chwilio am filwyr ychwanegol. Tra bu bant, penderfynodd Maurice de Londres, Arglwydd Cydweli, wrthdaro.

Casglodd Gwenllïan, gwraig brydferth Gruffydd ap Rhys, ei milwyr ac arwain byddin o Gymry i ymosod ar y dref a chastell Cydweli. Ym Maes Gwenllïan, y man sydd yn awr yn dwyn ei henw, ymrafaeliodd gyda byddinoedd yr arglwydd lleol Maurice de Londres, lle’i trechwyd yn llwyr.

Lladdwyd Gwenllïan a’i mab Morgan, a chipiwyd mab arall iddi, Maelgwn, yn garcharor. Yn ôl y sôn, dienyddiwyd Gwenllïan, a ni orffwysodd ei hysbryd nes i rywun chwilio maes y gad a dychwelyd ei phenglog i’w bedd.
Mae cysylltiad annatod rhwng enw Gwenllïan a thref Cydweli. Hyd heddiw mae ei henw yn ennyn parch ac edmygedd yn lleol. Henffych Gwenllïan – arwres ddiamod Cydweli ers 900 mlynedd!

Cath ddu Cydweli

Ceir hyd i gath ddu o fewn arfbais a sêl swyddogol Cydweli. Yn hyn o beth y mae’r dryswch. Newidiodd enw’r drefgordd yn aml dros y canrifoedd. Yn y nawfed ganrif pan mai ychydig oedd yn darllen ac nid oedd sillafu o bwysigrwydd mawr, fe’i henwyd yn Cetgueli. Gyda dyfodiad llyfrau, papurau newydd a geiriaduron daeth y sillafiad o bwys. Yn y 17eg Ganrif sillafodd hyd yn oed William Shakespeare ei enw mewn wyth gwahanol ffordd!

Mewn dogfennau hynafol, sillafwyd Cydweli fel Cadwely, Catwelli, Kedweli, Kadewely, Kedeweli, Keddewelly, Kedewely, Kadwelye a Kedwelle. Medrai “cath” Cydweli fod yn gamddehongliad ynghylch tarddiad y gair – cred rhai bod Cydweli wedi cael ei enwi ar ôl gŵr o’r enw Cattas, un a arferai gysgu mewn hen dderwen yn yr ardal!

Bydd eraill yn datgan mai dwrgi oedd masgot gwreiddiol y Dref. Yn aml, gwelwyd dwrgwn ar lannau’r afon o amgylch Cydweli ac mae un wedi ei ddarlunio mewn i garreg goffa ym mynwent Eglwys Y Santes Fair. Dywed y rheiny sy’n credu mai’r gath ddu yw gwir emblem Cydweli mae dyna’r creadur cyntaf a welwyd yn fyw wedi i’r pla du daro’r dref. Cysylltwyd yr enw gydag iachawdwriaeth a gwaredigaeth oherwydd hyn ac felly fe’i defnyddiwyd fel symbol herodrol Cydweli.

Hen Fenyw Fach Cydweli

Mae nifer wedi clywed am Gydweli oherwydd ei gastell ysblennydd, cain. Adnabyddir eraill yr enw o gwch Capten Cat o ddrama enwog Dylan Thomas, “Dan y Wenallt”. Er hyn, mae plant ysgolion Cymru’n fwy adnabyddus gyda’r hwiangerdd poblogaidd Cymraeg.

"Hen Fenyw Fach Cydweli"

Hen fenyw fach Cydweli yn gwerthu losin du,
Yn rhifo deg am ddimai, ond unarddeg i mi.
O dyna'r newydd gorau ddaeth i mi, i mi
Yn rhifo deg am ddimai, ond unarddeg i mi

Gallai "Yr Hen Fenyw Fach" fod wedi cyfeirio at yr haelionus Foneddiges Hawise de Londres, a fuodd yn byw yng Nghastell Cydweli yn y 13eg Ganrif pan oedd yn blentyn. Yn ôl y chwedl, er mwyn cael mynediad i’r castell, mi guddwisgodd ei hun fel gwerthwraig melysion a chacennau gan ddychwelyd yn hwyrach a datgan ei hun fel Ceidwad Castell Cydweli. Mae’n stori fach ddifyr, a phwy a ŵyr os mai’r hen wraig grebachlyd yn yr hwiangerdd oedd y Foneddiges brydferth!

 

  • Ceir hyd i ddogfennau ac erthyglau diddorol ynghylch hanes Cydweli ar wefan hanes Cydweli.  Cliciwch fan hyn er mwyn agor ffenestr newydd.
  • Mae gan Gydweli Gymdeithas Hanes Lleol. Cliciwch fan hyn i ddarganfod rhagor.
  • Mae Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli yn drysorfa o wybodaeth.  Cliciwch fan hyn i ddarganfod rhagor.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9yb - 1yp
Dydd Gwener: 9yb - 12yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2019. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.