Kidwelly Town Council Logo
Menu

Y Gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig wedi ailagor

Dyddiad: O Rhagfyr 10fed

Neges i hysbysu bod y Gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig wedi ailagor. Fel rhan o'r rhaglen 10 Tref Cyngor Sir Caerfyrddin, gallai safleoedd masnachol ar draws trefi marchnad gwledig y Sir fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol o hyd at £2000 i adfywio blaen eu siop.

Mae hon yn gronfa wedi'i thargedu ar gyfer safleoedd sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd dynodedig ym mhob tref farchnad wledig. Gellir ystyried ceisiadau o safleoedd sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r ardal ddynodedig pob tref fesul achos pe bai'r prosiect yn cael effaith sylweddol. 

 

Pwy all wneud cais?

  • Mae rhydd-ddeiliaid a lesddeiliaid yn gymwys.
  • Bydd angen 20% o arian cyfatebol gan bob ymgeisydd

Pa fath o wariant sy'n gymwys?

  • Addurno adeilad
  • Goleuadau
  • Canopïau (yn amodol ar ganiatâd cynllunio)
  • Arwyddion dwyieithog newydd

Amserlen 

  • Dylid cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau erbyn 30 Ionawr 2024.
  • Wedi derbyn llythr cynnig fedrwch ddechrau ar y gwaith.
    Rhaid i'r prosiectau gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Medi 2024.
  • Nodwch nad y'n bosib derbyn grant ar unrhyw wariant sydd wedi'i ymrwymo neu ei brynu cyn i'ch cais gael ei gymeradwyo'n llawn a'ch bod wedi derbyn llythr cynnig grant 

Sut i gael cefnogaeth?

Cysylltwch â RDPSIRGAR@sirgar.gov.uk  i drafod eich cais prosiect gyda swyddog. Rhaid i bob cais sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r canllawiau a'r argymhellion a nodir yng Nghanllaw Dylunio Treftadaeth Adeiledig Sir Gaerfyrddin

<< Yn ôl at y rhestr digwyddiadau

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.