Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld ceisiadau cynllunio cyfredol ardal etholiadol Cydweli.
Mae hi'n anrhydedd i wasanaethu'r gymuned fel maer y dref ar gyfer 2022 - 2023...Darllen rhagor
Tref yn Sir Gaerfyrddin yw Cydweli, tua 10 milltir i orllewin Llanelli. Mae’r dref yn eistedd ar lan y ddwy afon Gwendraeth (y Gwendraeth Fach a’r Gwendraeth Fawr) uwch Bae Caerfyrddin. Mae hi’n dref arfordirol sy’n ganolbwynt delfrydol ar gyfer teithio gorllewin Cymru, Parc Cenedlaethol Sir Benfro, Penrhyn Gwyr a Bannau’r Brycheiniog. Mae’r ardal yn gymysgedd gwych o gefn gwlad, glan môr a choetir – ac yn ficrocosm llawn o Gymru ar ei gorau.
Heddiw y mae’r dref wedi addasu ar gyfer twristiaeth ac adwerthu yn hytrach na diwydiant dwys, gydag atyniadau hanesyddol a gwledig megis Castell Cydweli, ac Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli.