Cynhelir cyfarfodydd yng Nghlwb Rygbi Cydweli am 7 o’r gloch bob trydydd Mercher y mis. Mae croeso i bawb.
Os oes gennych unrhyw syniadau neu os ydych yn methu bod yn bresennol i gyfarfodydd cysylltwch â Jeanette Gilasbey drwy ffonio 01554 892729
Mae gan bwyllgor Cydweli a Mynyddygarreg yn eu Blodau flychau blodau o amgylch yr ardal. Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd Jeanette Gilasbey, bod y grŵp yn chwilio am wirfoddolwyr. Os oes diddordeb gennych roi cymorth i’r grŵp, cysylltwch â’r Cyng. Gilasbey ar 01554 892729.
Mae Cadeirydd Cydweli a Mynyddygarreg yn ei blodau, y Cynghorydd Jeanette Gilasbey, wrth ei bodd gyda’r gefnogaeth a roddwyd iddynt yn ddiweddar gan y siop Co-operative. Mae’r siop wedi rhoi compost a phlanhigion i’w plannu allan i’r pwyllgor. Dywedodd y Cynghorydd Gilasbey "Rwyf wrth fy modd gyda rhodd garedig y siop Co-operative i bwyllgor Cydweli a Mynyddygarreg yn eu Blodau ac edrychwn ymlaen at gydweithio yn y dyfodol."
Mae’r Cynghorydd Tref a Sir, Jeanette Gilasbey, Cadeirydd Cydweli a Mynyddygarreg yn eu Blodau wedi diolch i siop y Co-operative yng Nghydweli am eu cefnogaeth unwaith eto eleni. Dywedodd y Cynghorydd Gilasbey, "Eleni, mae Co-op Cydweli wedi rhoi bagiau o bridd a rhisgl i’w defnyddio mewn mannau ar draws Cydweli a Mynydd y Garreg. Ar ran pawb, hoffem estyn ein diolch i’w cefnogaeth barhaus sy’n cael ei werthfawrogi gan y gymuned gyfan."
Mae blodau wedi eu plannu a hadau blodau gwyllt wedi'u hau yn Heol Ystrad, Cydweli gan y Cynghorydd Sir Jeanette Gilasbey. Bydd mannau eraill yng Nghydweli a Mynyddygarreg yn cael hadau blodau gwyllt wedi eu hau yn yr wythnosau nesaf.