Kidwelly Town Council Logo
Menu

Cath Ddu Cydweli yn gwenu o glust i glust!

Partneriaeth yn llwyddo ennill nawdd i wella twristiaeth yng Nghydweli a Mynydd-y-garreg.

Mae Cyngor Tref Cydweli mewn partneriaeth gyda CBC Hwb Cymunedol Cydweli wedi llwyddo ennill nawdd o £270,000 i weithredu strategaeth ddwy flynedd gyda'r nod o gynyddu economi ymwelwyr Cydweli a Mynydd-y-garreg.

Nod Strategaeth Dwristiaeth y Gath Ddu yw cynyddu twristiaeth drwy gefnogi a datblygu digwyddiadau diwylliannol a thwristiaeth ar gyfer Cydweli a Mynyddygarreg.

Bydd y strategaeth yn cefnogi busnesau lleol i sicrhau nawdd a datblygu cynlluniau adfywio busnes.

Daw'r nawdd oddi wrth Gronfa Cymunedau'r Arfordir Llywodraeth Cymru a'i gweinyddu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a bydd y prosiect yn rhedeg rhwng Gorffennaf 2021 hyd Fawrth 2023.

Bydd pedair swydd yn cael eu creu i gefnogi'r gymuned i wireddu'r strategaeth.

Dywedodd Maer Cydweli, y Cynghorydd Christopher Peters-Bond, “Yn 900 mlwydd oed, mae Cydweli yn dref hanesyddol sydd wedi'i bendithio gyda'i phrydferthwch naturiol – o'r Castell canoloesol i'r olygfa ogoneddus a geir o fynydd Mynydd-y-garreg.

“Mae twristiaeth yn bwysig i economi'r ardal, yn enwedig wrth i fwyfwy fynd ar eu gwyliau yn y wlad hon yn sgil y pandemig. Mae Strategaeth Dwristiaeth y Gath Ddu yn gyfle gwych i godi proffil Cydweli a Mynydd-y-garreg fel cyrchfan i dwristiaid.”

Dywedodd Crisial Davies, Cyfarwyddwr CBC Hwb Cymunedol Cydweli,

"Mae'r gymuned wrth eu boddau i gael y cyfle hwn i dderbyn nawdd oddi wrth Gronfa Cymunedau'r Arfordir Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan gydnabod yr angen ar gyfer buddsoddiad mewn trefi glan mor fel Cydweli."

—DIWEDD—

NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION
• Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda Virginia O'Reilly, Clerc y Dref, Cyngor Tref Cydweli ar 01554 890203 neu drwy e-bostio townclerk@kidwelly.gov.uk

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.