Dilynwch y ddolen hon er mwyn cael rhagor o wybodaeth ynghylch yr ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn eich barn am gynigion i ddiwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 er mwyn diwygio'r dosbarth defnydd presennol ar gyfer 'Tai annedd' a chreu dosbarthiadau defnydd newydd ar gyfer 'Ail Gartrefi' ac ar gyfer 'Llety Gwyliau Tymor Byr'. Rydym hefyd yn awyddus i glywed eich barn am gynigion cysylltiedig i ddiwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ymdrin â chynigion cysylltiedig i ddiwygio Polisi Cynllunio Cymru.
Er gwybodaeth ichi, gwnaeth Julie James AC, y Gweinidog Newid Hinsawdd, Ddatganiad Llafar ar Dachwedd 23ain ar ‘Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd’ a oedd yn cyfeirio at yr ymgynghoriad hwn.
Camau i'w cymryd: Ymatebion erbyn 23 Chwefror 2022.