Newyddion Coronafeirws COVID-19 Llywodraeth Cymru 9fed Hydref 2020
Penawdau Newyddion
Hwb gwerth sawl miliwn i gefnogi addewidion ar ôl COVID-19
Bydd Cymru yn adeiladu dyfodol newydd yn dilyn pandemig y coronafeirws, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, gan ddarparu £320m ar gyfer gwaith ail-greu uniongyrchol. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Cronfa i gefnogi gweithwyr llawrydd creadigol o effaith COVID-19 nawr ar agor
Mae gweithwyr llawrydd yn y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru’n bellach yn gallu ymgeisio am eu cyfran o gronfa gwerth £7 miliwn sy’n targedu’n arbennig y rheini yn y sector llawrydd sydd wedi’u taro galetaf gan bandemig y coronafeirws (COVID-19). Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Ymgyrch newydd i helpu pobl i chwilio am gyfleoedd newydd
Fel rhan o’i hymateb i coronafeirws (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cymorth mae’n ei ddarparu ar gyfer pobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan ddiswyddiadau, mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates wedi dweud. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Lansio cynllun yng Nghymru i helpu tenantiaid sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws
Cyhoeddodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, gynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth newydd gwerth £8 miliwn i helpu tenantiaid sy’n ei chael hi’n anodd i dalu ôl-ddyledion rhent o ganlyniad i’r coronafeirws. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Safleoedd profi galw i mewn newydd i agor yn agos at brifysgolion Cymru
Bydd nifer o drefi a dinasoedd Prifysgol yng Nghymru’n elwa ar Safleoedd Profi Lleol Galw i Mewn newydd. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
“Nawr yn fwy nag erioed mae angen i bobl feddwl yn ofalus ymhle i ofyn am gyngor er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y gaeaf hwn.”
Dyma alwad Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wrth i’n gwasanaethau gofal iechyd a’n byrddau iechyd barhau i ymateb i bandemig y coronafeirws. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Y Gronfa Cadernid Economaidd – dysgwch a yw eich busnes yn gymwys i gael cymorth gan y trydydd cam
Gall busnesau ledled Cymru bellach gael gwybod a ydyn nhw’n gallu gwneud cais am drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Fferyllfeydd cymunedol yn dweud bod mwy yn manteisio ar y brechlyn ffliw wrth i Gymru gynnal ar ei rhaglen frechu fwyaf
Ers y cyhoeddiad ym mis Gorffennaf gan Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y byddai Cymru’n cynnal ei rhaglen frechu fwyaf rhag y ffliw erioed, mae'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn eisoes yn uchel. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Cymru wedi 'arwain y ffordd' wrth ddarparu TG a gwersi ar-lein i ddisgyblion drwy gydol y pandemig
Mae'r ffordd y darparodd Llywodraeth Cymru liniaduron a dyfeisiau wi-fi i fynd i'r afael â'r diffyg mynediad at ddysgu ar-lein a achoswyd gan y pandemig coronafeirws wedi'i ddisgrifio fel un clodwiw mewn adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Y Prif Weinidog yn cryfhau’r tîm iechyd Gweinidogol
Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cryfhau ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws ymhellach drwy ad-drefnu portffolios Gweinidogol allweddol. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Mae’n rhaid i Gymru dderbyn cyfran deg o’r cyllid Ymchwil a Datblygu i gyflawni ei photensial – Gweinidog yr Economi
Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi annog Llywodraeth y DU i gefnogi Cymru i gyrraedd ei photensial llawn drwy sicrhau bod cyfran deg o’r cyllid Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn cael ei gyfeirio tuag at brosiectau Cymru. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Cadw dysgwyr yn ddiogel mewn addysg
Gwybodaeth a chanllawiau ategol i helpu ysgolion a darparwyr eraill i gadw dysgwyr yn ddiogel. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Ymweld ag ysbytai yn ystod y coronafeirws: canllawiau
Sut y gall y GIG helpu pobl i ymweld ag ysbytai mewn modd diogel sydd wedi’i drefnu yn ystod pandemig y coronafeirws. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Canllawiau ar dacsis a cherbydau hurio preifat
Gwybodaeth ar gyfer y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Chwaraeon a hamdden: canllawiau ar gyfer dychwelyd yn raddol
Canllawiau i bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau chwaraeon a hamdden. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Datganiad Ysgrifenedig: Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru)
Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.
Adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu: canllawiau
Adnodd asesu risg COVID-19 Cymru gyfan ar gyfer y gweithlu canllawiau i reolwyr a staff. Dilynwch y ddolen yma er mwyn darllen rhagor.