Efallai eich bod wedi clywed sôn ar y cyfryngau am gyfyngiadau 'torri cylched' posibl, sy'n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Fel rhan o'n grwpiau cynllunio tactegol rheolaidd rydym yn cynllunio ar gyfer pob posibilrwydd, ac rydym mewn deialog gyson gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru.
Mae’r Prif Weinidog wedi dweud y bydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun. Cofiwch y byddwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi cyn gynted ag y gallwn ac yn rhoi unrhyw wybodaeth berthnasol i chi.
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi canlyniad ein hadolygiad diweddaraf o gyfyngiadau yn ardal Llanelli, a sut y mae'r sefyllfa'n edrych ar draws Sir Gaerfyrddin.
Y newyddion da yw bod yr ardal diogelu iechyd sy'n cwmpasu rhan fawr o Lanelli yn gweithio'n dda ac yn helpu i leihau nifer yr achosion positif o Covid-19; fodd bynnag, mae pryderon yn cynyddu ynghylch lledaeniad Covid-19 mewn mannau eraill yn Sir Gaerfyrddin.
Rhoddir diolch i'r bobl sy'n byw yn yr ardal am eu hymdrechion a gofynnir iddynt barhau â'r gwaith da am o leiaf wythnos arall er mwyn helpu i ostwng y niferoedd ymhellach fyth.
Rydym yn parhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru er mwyn parhau i adolygu'r sefyllfa'n gyson.
Dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys a Brigâd Dân Canolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau bod pawb yn aros yn ddiogel ar Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.
Mae cyfyngiadau Covid-19 yn golygu yr effeithir ar ddathliadau'r hydref.
Bydd y Cyngor hefyd yn rhannu negeseuon diogelwch gan ei bartneriaid fel rhan o'r Ymgyrch Bang flynyddol dros yr wythnosau nesaf a hoffent awgrymu bod yr holl gynghorau tref a chymuned yn gwneud yr un peth. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen ynghylch Ymgyrch Bang.
Dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth
Mae cyfnod y Cofio yn hanfodol bwysig i bob un ohonom, er mwyn inni allu anrhydeddu gwasanaeth ac aberth cymuned y Lluoedd Arfog.
Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr werthfawrogi y bydd Awdurdodau Lleol, cynghorau tref a chymuned, ynghyd ag elusennau a'r Fyddin, yn cynllunio gweithgarwch y Cofio ar gyfer mis Tachwedd 2020 ac rydym am sicrhau bod gan drefnwyr gymaint o wybodaeth ar gael iddynt er mwyn cynllunio gweithgarwch y Cofio'n ddiogel.
O ystyried y sefyllfa bresennol gyda Covid 19, mae'n amlwg y bydd y Cofio eleni yn edrych ychydig yn wahanol i flynyddoedd blaenorol a bydd yn rhaid iddo ystyried y sefyllfa bresennol, gan adlewyrchu'r rheoliadau sydd ar waith ar y pryd i gyfyngu ar ledaeniad y feirws. Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi'r achlysur, er ei fod ar ffurf diwygiedig, gyda chyfranogiad yn agoriad Maes Cofio Cymru a Gŵyl Cofio (dan arweiniad y Lleng Brydeinig Frenhinol) a'r Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol a fydd yn digwydd yn gyfyngedig.
Er mwyn i drefnwyr allu glynu wrth ganllawiau a chynllunio Deddfau Cofio yn ddiogel, rydym yn rhannu'r canllawiau cenedlaethol a lleol presennol i Gymru ynghylch Covid 19.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn eu darllen. Gan fod hon yn sefyllfa sy'n symud yn gyflym, byddwn yn dosbarthu diweddariadau wrth iddynt ddigwydd a byddem yn annog trefnwyr i wirio a monitro cyhoeddiadau'n rheolaidd ynghylch gweithgarwch a ganiateir sy'n berthnasol i'r ardal. Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen cwestiynau cyffredin ynghylch Coronafeirws
Mae Partneriaeth Natur Leol Sir Gaerfyrddin yn trefnu Helfa Gnau Pathewod yr hydref a'r gaeaf hwn a gobeithiwn y gallwch ein helpu.
Rydym yn gwybod bod gostyngiad wedi bod ym mhoblogaeth y pathewod yn genedlaethol ac mae eu hamrywiaeth wedi'i chyfangu i de Cymru a Lloegr. Ond beth yw eu hanes yn Sir Gaerfyrddin?
Yn wir, yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn gwybod eu bod yn fwy cyffredin nag y meddyliwyd yn flaenorol, ond fel y gwelwch o'r map yn y wybodaeth sydd ynghlwm, mae bylchau o hyd lle mae cynefin addas ond dim cofnodion. A oes pathewod yn yr ardaloedd hyn?
Byddem wrth ein bodd pe gallech ein helpu.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor.