Kidwelly Town Council Logo
Menu

CAU FFORDD DROS DRO: B4308 STRYD Y BONT, CYDWELI

Mae cais wedi dod i law am gau dros dro y B4308 Stryd y Bont, Cydweli o fan sydd 120 metr i'r gogledd-orllewin o'r gyffordd â Heol yr Orsaf, am bellter o 30 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin.

 Mae angen cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd tra bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn archwilio'r bont, a fydd yn digwydd ddydd Sul 26 Tachwedd 2023 o 09:00 tan 15:00.

 Y llwybr arall ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-ddwyrain fydd mynd i gyfeiriad y gogledd-orllewin, yna'r gogledd-ddwyrain ar hyd y B4308 Stryd y Bont hyd at gylchfan Parc y Bocs. Wrth y gylchfan, defnyddio'r ail allanfa a theithio i gyfeiriad y de-ddwyrain, yna'r de-orllewin, ar hyd yr A484 ffordd osgoi Cydweli, hyd at gylchfan Pontrhyd. Wrth y gylchfan, dewis yr ail allanfa a theithio i gyfeiriad cyffredinol y gogledd-orllewin ar hyd y B4308 Heol Pen-bre i ddychwelyd i fan sydd i'r de-ddwyrain o'r man lle mae'r ffordd ynghau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd-orllewin.

Amgaeaf gynllun (nid yw wrth raddfa) sy'n dangos y darn ffordd sydd i'w gau a'r ffyrdd eraill y gall teithwyr fynd arnynt, a byddwn yn falch o dderbyn unrhyw sylwadau sydd gennych ynglŷn â'r mater.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.