Kidwelly Town Council Logo
Menu

Sefyll i fod yn Gynghorydd

Etholir Cynghorwyr Tref gan y cyhoedd ac maent yn gwasanaethu am dymhorau o bedair blynedd. Yn dilyn etholiadau, mae cynghorau tref yn apwyntio Maer.

Etholiadau Cyngor Tref

Yn arferol, cynhelir etholiadau cynghorwyr tref ar ddydd Iau cyntaf mis Mai bob pedair blynedd. Ar gyfer y rhan fwyaf o gynghorau lleol yng Nghymru, y flwyddyn etholiadol yw 2004, 2008 ac yn y blaen. Er hynny, pan gynhelir etholiadau awdurdodau unedol (h.y. Cyngor Sir Gâr) mewn blwyddyn wahanol, dyma hefyd flwyddyn etholiadol y cyngor tref.

O dro i dro, mae ad-drefniant llywodraeth leol yn achosi newid mewn diwrnod etholiad a blwyddyn etholiad.

Mae amserlen etholiad yn dilyn y drefn ganlynol:

  • Cyhoeddi hysbysiad etholiad: Nid hwyrach na’r pumed diwrnod ar hugain cyn etholiad.
  • Dosbarthu papurau Enwebu: Nid hwyrach na hanner dydd ar y bedwerydd dydd ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad.
  • Cyhoeddi’r rhestr o ymgeiswyr: Nid hwyrach na hanner dydd ar y seithfed dydd cyn diwrnod yr etholiad.
  • Dosbarthu hysbysiadau tynnu enwebiadau yn ôl: Nid hwyrach na hanner dydd ar yr unfed dydd ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad.
  • Hysbysiad am Etholiad: Nid hwyrach na’r chweched dydd cyn etholiad.
  • Pleidleisio: Rhwng 07:00 a 22:00 ar ddiwrnod yr etholiad.
  • Wrth gyfrif yr amserlen anwybyddir gwyliau banc a phenwythnosau.

Y broses enwebu

Rhaid i ddarpar ymgeisydd ddanfon papur enwebu dilys drwy law neu drwy’r post at y Swyddog Etholiad. Gellir cael gafael ar y ffurflen oddi wrth y Swyddog. Rhaid nodi cyfenw, enwau cyntaf, cyfeiriad a disgrifiad (os a fynnir) yr ymgeisydd ynghyd â’u rhif a llythyren ragddodiad o’r gofrestr etholwyr gyfredol. Mae’r Swyddog Etholiad yn meddu ar gopi o’r gofrestr hon, ac yn arferol mae gan glerc y cyngor lleol un hefyd.

Rhaid i’r papur enwebu gynnwys manylion tebyg o’r cynigydd a’r eilydd. Rhaid iddynt fod yn etholwyr i’r ardal lle mae’r ymgeisydd yn sefyll etholiad (h.y. y gymuned neu dref neu’r ward os yw wedi’i rannu i wardiau): rhaid iddynt ei arwyddo.

Y swyddog etholiad sydd wedi’i apwyntio gan yr awdurdod unedol yw’r person sy’n gyfrifol am drefniadau a rheolaeth etholiadau cynghorau tref a chymuned. Os ydych yn ystyried rhoi cais fel ymgeisydd ar gyfer etholiad gallai fod o fydd petaech yn cysylltu gyda'r Swyddog Etholiad er mwyn derbyn gwybodaeth fanwl bellach. Yn ogystal gallwch gysylltu gydag Un Llais Cymru am ragor o wybodaeth ynghylch bod yn gynghorydd (http://www.onevoicewales.org.uk/).

Os daw sedd yn wag yng nghanol tymor (neu os nad oes digon o ymgeiswyr i lenwi'r holl seddi gwag yn ystod etholiad) bydd y cyngor yn galw isetholiad. Mewn rhai amgylchiadau gall y cyngor gyfethol aelodau i'r cyngor.

Addaswyd y wybodaeth uchod o gyhoeddiad Un Llais Cymru.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.