Kidwelly Town Council Logo
Menu

CAU FFORDD DROS DRO - YR U2225, PEDAIR-HEWL, CYDWELI

Mae cais wedi dod i law am gau dros dro ffordd yr U2225, Pedair-hewl, Cydweli, o bwynt sydd 490 metr i'r de-ddwyrain o'r gyffordd â'r C2057 am bellter o 400 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.

Mae angen cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth i MJ Quinn wneud gwaith ar ran Openreach o ddydd Llun 21 Mehefin, 2021 am gyfnod o 5 diwrnod.

Y ffordd arall ar gyfer traffig sydd am deithio tua'r gogledd-ddwyrain fydd parhau ar hyd yr U2225 tua'r gogledd-orllewin hyd at y gyffordd â'r C2057 gan fynd heibio i eiddo a elwir yn Derlwyn. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a pharhau ar hyd y C2057 tua'r gogledd-ddwyrain hyd at y gyffordd â'r C2204 gan fynd heibio i eiddo a elwir yn Mountain Lodge a New House. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a pharhau ar hyd y C2204 i gyfeiriad y de-ddwyrain / de-orllewin hyd at y gyffordd â'r U2225 gan fynd heibio i eiddo a elwir yn Cwm-Einon. Wrth y gyffordd, troi i'r dde ger eiddo a elwir yn Waun-Gwiail-Fach a pharhau ar hyd yr U2225 i gyfeiriad y gogledd-orllewin / de-orllewin gan fynd heibio i eiddo a elwir yn Drynllwyn Cottage i ddychwelyd i fan sydd i'r gogledd-ddwyrain o'r man lle mae'r ffordd ynghau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-orllewin.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn gweld cynllun (nad yw wrth raddfa) sy'n dangos y darn ffordd a gaeir ynghyd â'r ffordd arall.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.