Kidwelly Town Council Logo
Menu

Cynllun Twf Economaidd Cynaliadwy ar gyfer Cydweli - Ymgynghoriad Cyhoeddus

Mae modd darllen a chynnig sylwadau ar ddrafft o Gynllun Twf Economaidd Cynaliadwy ar gyfer Cydweli sydd wedi cael ei gyhoeddi fel rhan o Fenter Deg Tref Cyngor Sir Gaerfyrddin, drwy'r wefan ryngweithiol yma -

https://kidwelly.carmarthenshire-towns.info/cymraeg/ (Dewiswch yr opsiwn 'Gweld y cynllun')

Yn dilyn y pandemig, mae'r Cyngor Sir wedi sefydlu adnoddau yn sylfaen i gefnogi adferiad a thwf trefi gwledig gydag ystod o gynigion ar gyfer mentrau a chefnogaeth busnes (gellir gweld rhagor o fanylion yn y cynllun). Mae'r ymgynghoriad yma'n gyfle i fusnesau a'r gymuned ehangach i gynnig sylwadau drwy'r wefan erbyn Gorffennaf 30ain 2021 a bydd copïau caled o'r cynllun ar gael i'w weld mewn nifer o leoliadau yn y dref ar gyfer y rheiny heb fynediad i'r rhyngrwyd.

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.