Mae cais wedi dod i law am gau dros dro yr U2226, Heol Horeb, Mynyddygarreg o'r gyffordd â'r U2228 am bellter o 43 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin.
Mae angen cau'r ffordd er mwyn i Gyngor Sir Caerfyrddin wneud gwaith draenio a hynny o 08:00 ddydd Llun, 29ain Hydref, 2018 am gyfnod o 5 diwrnod.
Y ffordd arall ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-orllewin fydd parhau i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd yr U2226 hyd at y gyffordd â'r C2068. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a theithio tua'r gogledd-ddwyrain ac yna i'r de-ddwyrain ar hyd yr C2068 hyd at y gyffordd â'r C2057. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a theithio tua'r de-orllewin ar hyd yr C2057 hyd at y gyffordd â'r U2226. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a theithio tua'r gogledd-ddwyrain ar hyd yr U2226 er mwyn dychwelyd i fan sydd i'r de-orllewin o'r man lle mae'r ffordd ar gau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd-ddwyrain.
Cliciwch fan hyn i weld cynllun sy'n dangos y darn ffordd sydd i'w gau a'r ffyrdd eraill y gall teithwyr fynd arnynt.