Kidwelly Town Council Logo
Menu

Croeso Cymru - diweddariad coronafeirws Mehefin 3ydd 2020

Estyn y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a chadarnhau’r camau nesaf ar gyfer ffyrlo

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r newyddion diweddaraf am y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws. Mae rhagor o fanylion ar wefan Busnes Cymru.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen gwefan Busnes Cymru


Y Gronfa Cadernid Economaidd

Cafodd y Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n werth £500 miliwn, ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn llenwi’r bylchau yn y cynlluniau cymorth a oedd wedi cael eu cyhoeddi eisoes gan Lywodraeth y DU. Mae’r cynlluniau hynny’n cynnwys y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, a fydd yn gwarantu 80% o gyflogau ac incwm pobl.

Daeth bron 9,000 o geisiadau i law yn ystod wythnos gyntaf y Gronfa Cadernid Economaidd, pan oedd £300 miliwn ar gael. O’r herwydd, cafodd y Gronfa ei hatal dros dro er mwyn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ystyried pa gymorth arall sydd ei angen ar fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol. Bydd yr ail gam yn dechrau’n fuan.

Cafodd cam nesaf y Gronfa Cadernid Economaidd, pan fydd £100 miliwn ar gael, ei gyhoeddi’n ddiweddar. Bydd y meini prawf ar gael ganol mis Mehefin gan roi amser i fusnesau baratoi cyn i’r gronfa agor ar gyfer ceisiadau ddiwedd mis Mehefin. Mae’n bwysig nodi y bydd Cam 2 yn dechrau pan fyddwn wedi cau’r cam cyntaf a dyna pam na allwn roi dyddiad penodol ar hyn o bryd.

O ran bod yn gymwys i gael cymorth o dan y Gronfa, bydd Cam 2 yn gweithio yn yr un ffordd â Cham 1 ond bydd y cynllun ar gyfer microfusnesau’n cael ei ddiweddaru, er mwyn i gwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi cofrestru at ddibenion TAW gael manteisio ar y Gronfa, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf ehangach ar gymhwystra.

Ewch i wefan Busnes Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen gwefan Busnes Cymru


COVID-19 – Traciwr Ymddygiad Defnyddwyr

Mae Croeso Cymru yn cydweithio gyda Visit Scotland a Visit England ar draciwr ymddygiad defnyddwyr. Mae’n canolbwyntio ar bobl sy’n byw ym Mhrydain ac yn asesu’r hyn y maent yn bwriadu’i wneud o ran gwyliau domestig ar gyfer gweddill 2020 a misoedd cynnar 2021. Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal yn wythnosol am gyfnod o dri mis. Mae canlyniadau cam cyntaf y gweithgarwch ar gael ac maent yn ymdrin â:

  • Meddylfryd y genedl – ei fesur
  • Hyder defnyddwyr o ran cymryd seibiant byr/gwyliau, a phryd y maent yn debygol o gynllunio, archebu a chymryd unrhyw wyliau 
  • I ble yn y DU y byddant yn debygol o fynd, pa fath o lety y byddant yn ei ddefnyddio a sut y maent yn bwriadu teithio yno
  • Pa fathau o weithgareddau y maent yn debygol o ymgymryd â nhw yn y gyrchfan y byddant yn ei dewis

Bydd dadansoddiadau manylach ar gael bob mis ar gyfer Cymru.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen y Traciwr Ymddygiad Defnyddwyr (Saesneg)


Yswiriant Tarfu ar Fusnes

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi cyhoeddi’r newyddion diweddaraf am yr achos cyfreithiol y mae’n ei ddwyn mewn perthynas ag yswiriant tarfu ar fusnes. Mae datganiad FCA i’r wasg i’w weld yma.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen y datganiad (Saenseg)


Profi, Olrhain, Diogelu: canllawiau i gyflogwyr

Profi, Olrhain, Diogelu yw cynllun Llywodraeth Cymru i brofi ac olrhain cysylltiadau a fydd yn helpu dinasyddion Cymru i ddychwelyd i'w bywydau bob dydd yn raddol ac yn ddiogel. Ewch i wefan Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen gwefan Busnes Cymru


Canllawiau Arferion Gorau ar weithio’n ddiogel

Rydym wrthi’n ymgynghori, drwy’r Fforymau Twristiaeth Rhanbarthol, ar ganllawiau arferion gorau ar gyfer gweithio’n ddiogel yn yr economi ymwelwyr/y sector twristiaeth yn barod ar gyfer yr adeg y caiff y cyfyngiadau eu llacio. Dim ond pan fydd yn ddiogel gwneud hynny y bydd unrhyw gyfyngiadau’n cael eu llacio yng Nghymru, a dim ond yn unol â map ffordd Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer yr economi Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: dal i drafod.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen y map ffordd

Yn y cyfamser, mae amrywiaeth o gymorth ymarferol a chanllawiau ar gyfer cyflogwyr ar draws amryfal feysydd busnes i’w gweld yma − Diogelu Cymru yn y Gweithle: Ailddechrau ac ailagor busnes.

Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen gwefan Busnes Cymru

 

Cyngor Tref Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL

Oriau Agor
Dydd Llun/Maw/Mer/Iau: 9.15yb - 1.15yp

Rhif ffôn: 01554 890203
E-bost:

© Cyngor Tref Cydweli 2017 - 2022. Cydnabyddir bod unrhyw gynnwys arall yn perthyn i'w perchnogion priodol.