Bydd yr angen i aros yn lleol yn Nghymru yn dod i ben ar 6 Gorffennaf. Cadarnhawyd hynny heddiw gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Bydd sector lletygarwch Cymru yn paratoi i ailagor yn yr awyr agored o 13 Gorffennaf ymlaen, mae’r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi heddiw.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Canllawiau i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i ailagor yn ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Canllawiau i reoli toiledau a ddefnyddir gan y cyhoedd yn ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y bydd pobl o ddau gartref ar wahân yn gallu dod at ei gilydd i ffurfio un cartref estynedig.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
O dipyn i beth, bydd practisau deintyddiaeth ac optometreg ledled Cymru yn ailddechrau cynnig mwy o’u gwasanaethau fel rhan o adferiad fesul cam y gwasanaethau iechyd ar ôl argyfwng y coronafeirws.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, y bydd gwasanaethau VAWDASV (trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol) yng Nghymru yn cael £1.5 m ychwanegol mewn refeniw i'w helpu i ymateb i alwadau cynyddol ar wasanaethau o ganlyniad i Covid-19
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Mae canllawiau newydd i safleoedd prosesu cig a chynhyrchu bwyd am atal a rheoli achosion o’r coronafeirws wedi’u cyflwyno i’r sector heddiw
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn estyn ei mesurau er mwyn diogelu busnesau y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt rhag cael eu troi allan yn ystod yr haf.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Mae cyllid wedi’i ddyfarnu i elusen sy’n cynnig cyngor ar bob agwedd ar fagu plant a bywyd teuluol er mwyn ymestyn gwasanaeth y llinell gymorth i siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn digwydd fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu rhieni i gadw’n ddiogel a chadw’n bositif yn ystod pandemig COVID-19.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Mae siopwyr yn cael eu hannog i gefnogi gweithwyr allweddol yng Nghymru drwy gymryd rhan mewn ymgyrch ar-lein newydd o’r enw #CaruCymruCaruBlas.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Mae mwy na blwyddyn wedi mynd heibio bellach ers i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i greu sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 a chydlynu’r gweithredu drwy ei Gynllun Carbon Isel er mwyn helpu meysydd eraill yn yr economi i gymryd camau pendant i symud oddi wrth danwyddau ffosil.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen rhagor
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cynhadledd i'r wasg am coronafeirws yn ddyddiol am 12.30pm, gyda chyfieithydd BSL. Mae modd gweld y cynadleddau yn fyw ar sianel Twitter @LlywodraethCym, BBC One Wales ac S4C.
Helpwch ni i ymladd coronafeirws trwy adrodd ar eich iechyd yn ddyddiol, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iawn.
Gallwch chi helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws drwy gwblhau arolwg iechyd dyddiol ar yr ap Astudiaeth Symptomau COVID. Mae’r ap hwn yn addas ar gyfer pawb, nid i’r unigolion sydd â symptomau yn unig.
Bydd yr app yn ein helpu i ddeall symptomau a lledaeniad COVID-19. Drwy ateb rhai cwestiynau cyflym, gallwch chi ein helpu i gynllunio ein hymateb i coronafeirws.
Ni fyddwn yn rhannu eich atebion y tu hwnt i’r GIG a sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r GIG i ymateb i’r coronafeirws.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn mynd at yr ap.
Mae ymgyrch ar y gweill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr allweddol o strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru. Mae'r wybodaeth ddiweddara am y strategaeth, gan gynnwys canllawiau i gyflogwyr, ar y wefan.
Dilynwch y ddolen yma er mwyn mynd at y wefan.
Mae deunydd fideo wedi cynhyrchu i ddefnyddio mewn ymgyrchoedd ac i rhanddeiliaid rhannu ar ei sianelu. Mae modd i chi lawrlwytho'r deunydd digidol fan hyn a byddem yn gwerthfawrogi os fyddech yn rhannu ar eich sianelu cymdeithasol, er mwyn rhannu gwybodaeth am y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu.
Dlynwch y ddolen yma er mwyn mynd at y deunyddiau digidol