Hyfforddiant am ddim gyda phrosiect LIMITLESS
Mae cyllid ar gael gan brosiect LIMITLESS, sy'n ran o Threshold DAS (Cymorth i Ferched gynt) ar gyfer hyfforddiant am ddim.
Cynigir cyrsiau Dysgu dan arweiniad ar-lein.
Maent am ddim ar gyfer menywod mewn cyflogaeth sy'n byw neu'n gweithio yn Siroedd Caerfyrddin, Caerffili neu Blaenau Gwent (unrhyw un sy'n weithiwr llawrydd, ar gontract dim oriau neu gyflogaeth ran-amser/llawn-amser).
Mae cwrs Ymwybyddiaeth Trais Domestig Lefel 1 ar gael ar hyn o bryd - nid yw'n cymryd mwy na 10 awr i'w gwblhau. Gofynnwyd i Threshold DAS ddarparu'r hyfforddiant yma gan ddefnyddwyr eu gwasanaeth a phobl broffesiynol yn y gymuned. Cyflwynir tystysgrif mewnol Threshold DAS ar gyfer y rheiny sy'n cymryd rhan wedi iddynt gwblhau'r hyfforddiant. Mae modd achredu'r cwrs (drwy Agored Cymru) am ddim i aelodau'r prosiect LIMITLESS os ymgymerir gyda chymhwyster Lefel 2 hefyd.
Mae'r cyrsiau eraill sydd ar gael oll yn gymwysterau Lefel 2, sydd wedi eu Achredu gan Agored:-
Darperir deunyddiau hyfforddiant pan fyddwch yn cofrestru (cysylltwch gyda Threshold DAS am ragor o wybodaeth).
Cynigir cefnogaeth 1 i 1 (er nad yw'n orfodol) drwy ein rhaglen Dysgu dan arweiniad.
Gweler y taflenni cyhoeddusrwydd (Saesneg) am ragor o wybodaeth drwy ddilyn y dolenni:
Iechyd meddwl, llesiant a straen
Mae'r cyrsiau yn llawn hwyl ac yn addysgiadol iawn ac fe'u cwblheir yn llawn ar-lein.