Mae Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin wedi cael cyllid y llynedd gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Partneriaeth Natur Leol Cymru i greu proffiliau byr ar gyfer wardiau Sir Gaerfyrddin, a hynny er mwyn tynnu sylw at yr amgylchedd naturiol ym mhob ward yn y sir.
I nodi Wythnos Natur Cymru, rydym bellach yn anfon y rhain allan er mwyn dathlu'r Bywyd Gwyllt yn eich Ward.
Cafodd y proffiliau eu creu mewn partneriaeth â Chanolfan Wybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru a ddarparodd data a mapiau i helpu i strwythuro'r proffiliau.
Nid yw'r proffiliau hyn i fod yn orffenedig o gwbl - maent yn seiliedig ar y wybodaeth oedd ar gael ar y pryd a chawsant eu creu yn ystod cyfyngiadau Covid-19 - roedd mynediad yn gyfyngedig iawn. Rydym yn eu hystyried fel man cychwyn ar gyfer tynnu sylw at y bywyd gwyllt yn eich ardal leol a'r lleoedd y mae pobl yn eu mwynhau.
Y gobaith yw eu bod yn eglur ac y byddant yn annog cymunedau i ddod i wybod mwy - gan ddefnyddio'r wybodaeth helaeth sydd eisoes ar gael a'r camau cadarnhaol y mae cymunedau eisoes yn eu cymryd yn y sir i helpu ein hamgylchedd naturiol.
Yn anffodus nid yw'r allwedd ar y mapiau yn ddwyieithog ar hyn o bryd - rydym yn gweithio i newid hyn.
Dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen proffil wardiau Llanismel a Chydweli.
Croesewir eich cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o’r byd naturiol ar ein stepen drws. Yn y broses ymgynghori derbyniwyd lluniau a syniadau ar gyfer teithiau cerdded mewn rhai ardaloedd, ond mae rhai wardiau eraill heb gyfrannu eto. Os gall eich cymuned ein helpu gan roi’r wybodaeth hon a’i hala atom, cynhwysir eich cyfraniadau yn eich proffil lleol.
I gyd-fynd â lansiad y proffiliau, dilynwch y ddolen hon er mwyn darllen y ddogfen yma sy'n cynnwys rhai awgrymiadau o'r hyn yr hoffai'r cymunedau gymryd rhan ynddynt o bosibl yr haf hwn.
Rhowch wybod i ni am yr hyn rydym wedi'i fethu ac unrhyw wallau anochel a allai fod yn y proffiliau: Bioamrywiaeth@sirgar.gov.uk