Mae mudiadau gwasanaethau gwirfoddol gorllewin Cymru wedi creu gwefan sy'n cynnig gwasanaethau i bobl ar draws y rhanbarth. Darllenwch y neges:
Mae’n bleser gan brosiect Cysylltu lansio tri phlatfform digidol, dwyieithog, ar draws Gorllewin Cymru. Wedi’u hariannu gan Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru, a’u comisiynu gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, mae’r platfformau hyn wedi’u dylunio i helpu cysylltu unigolion oddi fewn i gymunedau, ac ar eu traws.
Bwriedir i’r platfformau fod yn ffordd ddigidol i holl drigolion Gorllewin Cymru ddod o hyd i’w gilydd, a helpu ei gilydd, trwy rannu eu hamser ar sail gyfartal. Mae’r platfformau’n cynnwys lle i Dimau, lle gall aelodau’r gymuned gydweithio a gweithio ar syniadau a fydd yn gwella eu hardal. Fe fydd lle hefyd i grwpiau a gwasanaethau cymunedol arddangos eu digwyddiadau a’u gweithgareddau ar-lein ac all-lein .
Mae ein platfformau’n falch i weithio gyda’r ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd, a lansiwyd ddydd Gwener. Mae ymuno â’ch platfform Sirol, a chysylltu â’ch cymuned, yn un ffordd i gefnogi’r ymgyrch.
Ceir ystod enfawr o fideos defnyddiol ar y platfformau, i’ch helpu i ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas, ac fe fydd mwy’n cael eu cyhoeddi ar ein tudalen Facebook yn ystod yr wythnosau nesaf.
Gellir dod o hyd i’r platfformau yma. Dilynwch y dolenni i ymweld â'r gwefannau:
www.connectpembrokeshire.org.uk www.cysylltusirbenfro.cymru
www.connectcarmarthenshire.org.uk www.cysylltusirgar.cymru
www.connectceredigion.org.uk www.cysylltuceredigion.cymru
Hoffwch ni ar Facebook a dilynwch ni ar Twitter os gwelwch yn dda
Defnyddiwch ein hashnodau: #goodthingshappenwhenyouConnect a
#Maepethaudayndigwyddpanfyddwchchi'nCysylltu
Gellir cysylltu â phrosiect Cysylltu drwy ein cyfryngau cymdeithasol neu ar e-bost – lee.hind@pavs.org.uk